Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 8 Ionawr 2021
Amser:
09.30 -
11.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11115
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Matt Wellington, Llywodraeth Cymru Anna Adams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AS.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Cadeirydd: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21 - 23 Rhagfyr 2020
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb, Llywodraeth Cymru; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i wneud yr hyn a ganlyn:
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y gweithgor treth incwm;
· rhannu'r dadansoddiad o’r wybodaeth a gasglwyd gan yr holl golegau ynghylch effaith y cyfrifon dysgu personol;
· rhannu gwybodaeth am gostau newid y meini prawf ar gyfer prydau ysgol am ddim; a
· rhannu’r dadansoddiad o effaith creu band treth uwch ar gyfer trafodion eiddo amhreswyl.
4 Offerynnau Statudol ym maes treth: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb, Llywodraeth Cymru; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ynghylch offerynnau statudol ym maes treth.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Offerynnau Statudol ym maes treth: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i gyflwyno adroddiad ar yr offerynnau statudol.
8 Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Ymchwiliad i'r Fframwaith Cyllidol; a’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft.
9 Trafod y flaenraglen waith
9.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.